Gary Speed
Mae rheolwr Cymru, Gary Speed wedi dweud bod yna rai agweddau positif i’r gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon – er gwaethaf y canlyniad siomedig. 

Fe sgoriodd y Gwyddelod dair gôl yn yr ail hanner o gêm agoriadol Cwpan y Cenhedloedd i sicrhau buddugoliaeth gadarn yn erbyn Cymru. 

“Yn amlwg rwy’n siomedig gyda’r canlyniad.  Does neb moyn colli fel yna, yn enwedig yn ein gêm gyntaf,” meddai Speed. 

“Ond mae ’na bethau positif i’w cymryd o’r gêm a phethau y gallwn ni ddysgu a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn tro nesaf.

“Doedden ni ddim yn pasio’r bêl mor dda â beth ni’n gallu gwneud yn yr hanner cyntaf.  Ond roedden ni wedi amddiffyn yn dda iawn.

“Roedd yn ddechrau da i’r ail hanner, ond cyn gynted sgoriodd Gweriniaeth Iwerddon, roedd pennau’r bois wedi disgyn.

“Roedd yr ail a thrydedd gôl yn rhai siomedig.  Dyw hi ddim yn bosib gadael timau i sgorio goliau fel yna yn eich erbyn.

“Ond mewn rhyw ffordd rwy’n falch bod hynny wedi digwydd.  Fe allwn ni’n awr bwysleisio hyn i’r chwaraewyr i sicrhau nad yw’n digwydd eto.”

Mae Gary Speed eisoes yn edrych ymlaen i’r gêm nesaf yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ar 26 Mawrth. 

Mae rheolwr Cymru’n gobeithio bydd ’na welliant yn y perfformiad yn erbyn yr hen elyn yng Nghaerdydd. 

“Roedd yr agwedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn wych, ac mae’n rhaid i ni fynd â hynny gyda ni mewn i’r gêm nesaf a gobeithio gwella ar ac oddi ar y cae.”