Mae’r Seintiau Newydd wedi cau’r bwlch ar Fangor i saith pwynt ar ôl curo Llanelli yn Park Hall. 

Fe gymerodd y tîm cartref bron i awr i dorri trwy amddiffyn trefnus Llanelli.  Fe ddaeth y gôl gyntaf o gic o’r smotyn gan Matty Williams wedi 56 munud ar ôl i Martyn Giles wthio Aeron Edwards yn y cwrt cosbi. 

Saith munud yn ddiweddarach fe ddyblodd Williams y sgôr gyda gôl oddi ar gic gornel. 

Dyma’r tro cyntaf mewn 12 gêm i dîm Andy Legg golli, ond maen nhw eisoes wedi sicrhau eu lle yn chwech uchad yr adran.