Fe fydd rhaid i Bort Talbot aros tan ddydd Sadwrn i ganfod a ydynt wedi sicrhau eu lle yn chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru ar ôl colli i Gastell-nedd neithiwr. 
Roedd angen gêm gyfartal ar Bort Talbot yn y darbi lleol ar y Gnoll i fwy neu lai sicrhau eu lle yn hanner uchaf yr adran. 
Fe fyddai hynny wedi gorfodi Aberystwyth i geisio curo Hwlffordd dydd Sadwrn  o wyth gôl. 
Ond mae colled Port Talbot yn golygu mae dim ond ennill y gêm sydd angen ar dîm Alan Morgan er mwyn gorffen hanner cyntaf y tymor yn y chwech uchaf.
Er gwaethaf i Bort Talbot rheoli’r meddiant ar ddechrau’r gêm, y tîm cartref aeth ar y blaen wedi chwarter awr ar ôl i Paul Cochlin canfod cefn y rhwyd gyda pheniad. 
Ond fe gafodd y sgôr ei unioni chwe munud yn ddiweddarach ar ôl i David Brooks canfod pas Casey Thomas. 
Fe ddaeth y gôl fuddugol wedi 37 munud gydag Andy King yn sgorio yn dilyn amddiffyn llac.