Craig Bellamy - gyda Chymru yn Iwerddon
Mae un o sêr Cymru, Craig Bellamy, wedi teithio gyda’r garfan genedlaethol i Iwerddon, er nad yw’n gallu chwarae.

Fe benderfynodd y cyn-gapten ei fod eisiau dangos cefnogaeth i’r tîm ac i’r rheolwr newydd, Gary Speed.

Fe fydd Cymru’n chwarae heno yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghwpan y Cenhedloedd Carling – gêm gynta’ Speed wrth y llyw.

Mae yntau wedi dweud mai’r nod yw rhoi pethau yn eu lle ar gyfer y dyfodol.

Un diwrnod o ymarfer

“Fe fyddai’n braf dechrau trwy ennill,” meddai wrth Radio Wales. “Ond dim ond un diwrnod o ymarfer yr ydyn ni wedi ei gael.”

Fe fydd hefyd yn gorfod gwneud heb nifer o chwaraewyr pwysig, gan gynnwys Craig Bellamy a’r chwaraewr canol cae, Aaron Ramsey.

Fe fu’n rhaid i’r amddiffynnwr, Danny Gabbidon, dynnu’n ôl hefyd ar ôl cytuno i ail afael yn ei yrfa ryngwladol.

Tîm Cymru

Wayne Hennessey (Wolves); Neal Eardley (Blackpool), Danny Collins (Stoke), James Collins (Aston Villa), Sam Ricketts (Bolton); Andrew Crofts (Norwich), Andy King (Leicester), David Vaughan (Blackpool); Simon Church (Reading), Robbie Earnshaw (Nottingham Forest), Hal Robson-Kanu (Reading).

Eilyddion: Chris Gunter (Nottingham Forest), Jermaine Easter (Crystal Palace), Freddy Eastwood (Coventry), Joe Ledley (Celtic), Ashley Williams (Swansea), Andy Dorman (Crystal Palace), Darcy Blake (Cardiff), Sam Vokes (Wolves), Lewin Nyatanga (Bristol City), Jason Brown (Blackburn Rovers), Lewis Price (Crystal Palace)