Gohebydd clwb Caerdydd, Dafydd Wyn Williams, sy’n crynhoi noson emosiynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr.

Mewn wythnos go anodd i bêl-droed yng Nghymru, bu noson arbennig yn y brifddinas neithiwr wrth i Gaerdydd barhau ar eu rhediad gorau yng nghwpan y gynghrair ers y 60au.

Roedd hi’n noson a ddechreuodd wrth gwrs gyda theyrnged i Gary Speed, a bu teyrnged bellach ar y maes, wrth i Glwb Pêl-droed Caerdydd drechu Blackburn o’r Uwch Gynghrair yn weddol ddiffwdan.

Roedd Kenny Miller yn arbennig ar dân, gyda gôl sydyn wedi i Pedersen golli’r bêl yng nghanol y cae i Gunnarsson, a yntau’n rhoi’r bêl ar blât i’r Albanwr.

Whittingham, pwy arall, gymerodd y gic gornel i ganiatáu Kiss … neu efallai Gerrard ar y llinell hyd yn oed… i ychwanegu ail gôl i Gaerdydd.

Pwysau ar reolwyr

Diddorol nodi bod hyn yn ddigon o sbardun i gefnogwyr Caerdydd atgoffa Steve Kean, rheolwr Blackburn, o’i sefyllfa fregus ar hyn o bryd – sydd efallai’n eironig o ystyried y sylw cynyddol yr wythnos hon i’r pwysau uffernol sydd ar reolwyr pêl-droed ar y lefel uchaf.

Mae MindCymru wedi datgan imi ar Twitter ddoe eu bod am lansio eu hymgyrch diweddaraf yng Nghymru yn fuan, ac efallai mai nid  dim ond y papurau newydd sydd angen newid eu hagwedd ysglyfaethus yn go fuan yn y dyfodol?

Trwy gyd-ddigwyddiad, sy’n gallu bod yn rhywbeth go gyffredin i ni yn y byd pêl-droed,

fe wnaeth tîm Caerdydd gwrdd â sawl un o gyfoedion Gary Speed wrth herio Leeds oddi cartref yn ddiweddar.  Roedd sawl un o dîm 1991-92 [gweler erthygl flaenorol] ar gael i droedio ar y maes yn ystod hanner amser y gêm honno i gofio eu pencampwyr o’r tymor hwnnw.

Hawdd anghofio

Yn ôl ei natur, doedd rheolwr tîm Cymru ddim ar gael i ailymweld â nostalgia y 1990au y noson honno – mae’n siŵr fod ei feddwl yn brysur yn gweithio ar ei dîm i guro Norwy, ac felly ddim ar gael i fwynhau atgofion a diolchiadau’r dorf eiddgar…

Erbyn heddiw wrth gwrs mae Elland Rd megis allor o flodau a chrysau gwynion iddo.

Trwy ddamwain a hap, doeddwn i ddim wedi sôn am gyfraniad Gary Speed i’r tîm hwnnw yn fy adroddiad o’r gêm honno i Golwg360. Efallai fod hynny’n symptomatig o’r hyn mae pawb wedi profi ers bore Sul, sef nad ydym ni’n gallu gwerthfawrogi’r hyn sydd gennym nes bod hi’n rhy hwyr.

Mae’r gymuned bêl-droed wedi ceisio cofio Gary Speed yn y modd gorau posib serch hynny:

Canlyniad Leeds neithiwr – buddugoliaeth sylweddol o 4-0 yn erbyn Notts Forest.

Chwaraewr gorau gêm Lerpwl v Chelsea – Craig Bellamy, pwy arall.

Fel y gwyddom, mae’n gêm od gythreulig. Ond, dim ond gêm yw hi wedi’r cyfan.