Mae Brendan Rodgers, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud iddo gael ei daro’n wael â’r coronafeirws yn fuan ar ôl i’r tymor pêl-droed gael ei ddirwyn i ben.

Mae’r rheolwr o Ogledd Iwerddon, sydd bellach yn rheoli tîm Caerlŷr (Leicester City) yn dweud ei fod e a’i wraig Charlotte wedi bod yn sâl yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill.

Mae e bellach yn paratoi ei dîm ar gyfer ailddechrau’r tymor fis nesaf.

Daw’r newyddion ychydig fisoedd ar ôl i Mikel Arteta, rheolwr Arsenal, gael ei daro’n wael â’r feirws.

Y salwch

“Ryw wythnos ar ôl i ni dorri i fyny, do’n i ddim yn hwylus ac fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach fod gyda fi’r feirws a rhyw wythnos yn ddiweddarach, cafodd fy ngwraig y feirws hefyd,” meddai Brendan Rodgers.

“Fe wnaethon ni dreulio ryw dair wythnos, y ddau ohonon ni, yn teimlo’i effeithiau.

“Doedden ni ddim cynddrwg â phobol erill ond fe wnaethon ni golli’r gallu i arogli a blasu, yn ogystal â’n nerth.

“Ges i flas ar sut mae’n teimlo, roedd hi’n anodd.

“Unwaith roedden ni’n iach eto, fe wnaeth i ni werthfawrogi ein hiechyd a dw i wedi achub ar y cyfle i gael fy hun mor ffit ag y galla i fod eto.

“Y peth mwya’ rhyfedd yw colli’r gallu i arogli a blasu, rydych chi’n colli’ch nerth, a phrin eich bod chi’n gallu cerdded deg llathen.

“Ro’n i’n teimlo ar y pryd ei fod e’n debyg i ddringo Kilimanjaro. Wrth i chi gyrraedd rhyw bwynt arbennig ar uchder mawr, rydych chi’n cerdded ac yn dioddef.

“Y tro cyntaf wnes i geisio ymarfer corff, do’n i ddim yn gallu rhedeg deg llathen. Mae’n eich bwrw chi go iawn, ond doedd hi ddim mor ddifrifol â rhai pobol.

“Rydych chi’n dod drwyddi’n ddiolchgar eich bod chi’n iawn.”

Symptomau

Mae Brendan Rodgers yn dweud iddo synhwyro’i symptomau yn gynnar yn y salwch.

“Ar y pryd, do’n i ddim wedi cael prawf, ond ro’n i’n gwybod ei fod e’n wahanol,” meddai.

“Y pen tost rydych chi’n ei gael, roedd yn teimlo fel pe bai wedi’i ynysu ar un ochr y pen.

“Rydych chi’n colli’ch chwant bwyd, dydych chi ddim yn gallu arogli na blasu, ac rydych chi’n teimlo’n wan.

“Rydych chi’n meddwl, ‘Os nad yw e gyda fi, tybed beth yw e?’

“Dyna pam gawson ni’r prawf, jyst i fod yn siŵr.”

Mae’n dal i gael prawf ddwywaith yr wythnos yn unol â chanllawiau Uwch Gynghrair Lloegr, wrth i gemau ailddechrau ar Fehefin 17.