Mae tîm pêl-droed Cei Connah wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn y penderfyniad i ddirwyn y tymor i ben yn sgil y coronafeirws.

Daw’r penderfyniad yn dilyn ymgynghoriad â’r clybiau.

Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ennill y gynghrair, ac maen nhw’n bencampwyr ar sail system pwyntiau fesul gêm a gafodd ei defnyddio i ddatrys gweddill y tymor.

Mae’n golygu mai Cei Connah sy’n cipio lle rhagbrofol Cymru ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr.

Y Seintiau Newydd sy’n gorffen yn ail, a’r Bala yn drydydd a bydd y ddau dîm yn chwarae yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf, ynghyd â’r Barri sy’n cipio’r lle sydd wedi’i neilltuo ar gyfer Cwpan Cymru.

Does dim sicrwydd eto pwy fydd yn esgyn nac yn disgyn.