Celtic yw pencampwyr Uwchgynghrair yr Alban am y nawfed tymor yn olynol tra bod Hearts yn ystyried camau cyfreithiol ar ôl disgyn i’r Bencampwriaeth.

Cyhoeddodd Cynghrair Bêl-droed yr Alban y penderfyniad ar ôl i’r 12 tîm yn yr Uwch-gynghrair gytuno nad oedd yna ffordd o gwblhau gweddill y gemau.

Cafodd system cyfartaledd pwyntiau fesul gêm ei ddefnyddio i benderfynu ar y safleoedd terfynol.

Yr unig newid i’r tabl oedd St Johnstone yn codi uwchben Hibernian i’r chweched safle.

“Byddem ni wedi hoffi gallu cwblhau gweddill y tymor, dyna’r oll yr oeddem eisiau ei wneud,” meddai rheolwr Celtic Neil Lennon.

“Bydd sawl un yn ceisio ein herio [am hyn], ond rydym yn bencampwyr ac am reswm.”

Roedd Hearts bedwar pwynt tu ôl i’r Hamilton oedd yn olaf-ond-un, gyda’r ddau dîm gydag wyth gêm yn weddill i’w chwarae.

Mae Hearts wedi dweud eu bod yn ystyried camau cyfreithiol yn erbyn y penderfyniad.

“Rydym wedi nodi o’r dechrau nad ydym yn credu ei bod hi’n deg fod unrhyw glwb yn cael ei gosbi’n annheg yn sgil pandemig y coronafeirws.

“Mae’r clwb wedi bod yn derbyn cyngor cyfreithiol drwy gydol y broses ac yn parhau i wneud hynny.”

Mae cynghreiriau a chlybiau Lloegr yn dal i drafod y ffordd orau ymlaen.

Y sefyllfa yng Nghymru

Roedd yn rhaid i bob clwb o Uwchgynghrair Cymru, Cynghrair y Gogledd a Chynghrair y De gyflwyno eu dewisiadau ar sut i orffen y tymor erbyn 12 yr hwyr ddoe (dydd Sul, Mai 17).

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Fwrdd y Gynghrair Genedlaethol, a fydd yn cyfarfod yfory (dydd Mawrth, Mai 19).

Ymysg yr opsiynau fydd yn cael eu hystyried fydd gorffen y tymor, pennu fformat newydd i benderfynu ar y safleoedd terfynol, neu ddefnyddio canlyniadau o gemau sydd wedi cael eu chwarae hyd yma i ddod i gasgliad.

Y ddau fformat sy’n cael eu hystyried yw cyfartaledd pwyntiau fesul gêm (sydd wedi cael ei ddefnyddio gan wledydd eraill, megis yr Alban, uchod) neu ddefnyddio’r tabl fel yr oedd o ar ddiwedd Cymal 1.

Mae’r ddau fformat yn arwain at ddau ganlyniad gwahanol: Cei Connah fyddai’n bencampwyr ar sail cyfartaledd pwyntiau fesul gêm.

Fodd bynnag, y Seintiau Newydd oedd yn gyntaf ar ddiwedd Cymal 1.

Gwledydd eraill

Tra bod y Bundesliga yn yr Almaen wedi ail ddechrau chwarae dros y penwythnos mae rhai o gynghreiriau eraill Ewrop wedi dod a’r tymor i ben.

Yn Ffrainc, cafodd PSG ei coroni’n bencampwyr, tra bod Club Brugge yn bencampwyr ar Wlad Belg.