Mae Connor Roberts, amddiffynnwr Abertawe a Chymru, yn cadw’n brysur yn ystod gwarchae’r coronafeirws wrth droi ei law at waith saer coed.

Mewn erthygl ar wefan yr Elyrch, mae’r cefnwr de, oedd yn gobeithio chwarae yn Ewro 2020 dros yr haf, yn dweud bod gwaith coed yn ddiddordeb ganddo erioed.

Ond mae’r amser i ffwrdd o’r byd pêl-droed yn gyfle iddo fireinio’i sgiliau.

Ymhlith ei gampweithiau hyd yn hyn mae giât i’w gartref e a chartref ei fam, bocsys adar i’w bartner, silffoedd llyfrau, mainc gwaith coed i’r garej allan o bren sgaffaldau a wal tŵls i’r garej.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, dw i wedi dysgu sut i wneud pethau ac wedi dysgu am waith saer coed,” meddai.

“Mae gyda fi weithdy bach yn y garej, felly mae digon o le gyda fi i weithio oddi yno ar bethau.

“Dw i’n gwylio fideos YouTube ac yn dilyn llawer o gyfrifon ar Instagram sy’n gwneud celfi, ynghyd â chyfrifon seiri.

“Dw i wedi dysgu canllawiau a thriciau.

“Dw i’n dilyn mwy o seiri ar Instagram nag unrhyw beth am bêl-droed.

“Does dim llawer o bêl-droedwyr yn gwneud y math yma o beth, a dyw pobol fwy na thebyg ddim yn disgyl i fi fod yn ei wneud e.

“Mae’r teimlad o wneud rhywbeth a bod yn hapus â fe’n wych.

“Ond dw i’n dipyn o berffeithydd, felly pan dw i’n gwneud rhywbeth, mae’n rhaid iddo fe fod yn iawn, neu fe wna i ddechrau eto.”

Troi’r diddordeb yn swydd?

Yn ôl Connor Roberts, fe allai droi’r diddordeb yn waith llawn amser yn y pen draw.

“Dydych chi byth yn gwybod beth fydd yn digwydd ar ôl pêl-droed, ond mae gwaith coed yn rhywbeth y byddwn i’n ei ystyried,” meddai.

“Dw i wedi cael sawl saer yn gweithio yn y tŷ yn gwneud rhyw fân bethau, a nawr dw i’n eu hystyried nhw’n ffrindiau oherwydd dw i’n eu nabod nhw’n dda, a dw i’n eu holi nhw o dro i dro.

“Does dim cymwysterau gyda fi, ond dw i’n mwynhau ac yn dysgu drwy’r amser.

“Gallwn i fynd yn brentis saer a mynd gyda nhw i weithio a dysgu mwy.

“Dw i’n nabod sawl un yn Abertawe fyddai’n hapus iawn i fi fod yn brentis iddyn nhw.”

Gwylio rhaglenni teledu

Tra ei fod e’n hapus iawn i droi ei law at waith coed, mae’n cyfaddef ei fod e’r un mor hapus yn gwylio pobol eraill yn gwneud y gwaith.

“Fe wnes i Ddylunio a Thechnoleg yn yr ysgol a’i fwynhau e,” meddai.

“Ges i fwlch bach ar ôl gadael yr ysgol cyn chwarae pêl-droed go iawn.

“Ond nawr dw i’n berchen ar fy nghartref fy hun ac mae gyda fi weithdy, felly dw i wedi gallu troi ato eto.

“Dw i’n gwylio The Repair Shop, a dw i wrth fy modd. Mae hynny’n lefel arall eto.

“Mae’r bobol yn y rhaglen honno’n broffesiynol ac o’r radd flaenaf.

“Dw i hefyd yn gwylio Homes Under The Hammer ac Escape to the Chateau DIY.

“Ond fyddwn i ddim eisiau adeiladu tŷ na sied – mae’n well gyda fi weithio gyda phren.

“Mae’n drueni ein bod ni dan warchae oherwydd alla i ddim cael nwyddau i’r tŷ gan werthwyr er mwyn bwrw ymlaen gyda fy sied tŵls.

“Ond pan ddaw’r gwarchae i ben, bydda i’n bwrw ati gyda sawl prosiect arall.”