Fe fydd cefnogwyr tîm pêl-droed Abertawe’n cael cyfle arall heddiw (dydd Llun, Ebrill 13) i wylio’r tîm yn codi i Uwch Gynghrair Lloegr.

Cafodd y gêm dyngedfennol hon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn 2011 ei dewis trwy bleidlais ymhlith y cefnogwyr, oedd wedi ei dewis hi uwchlaw’r fuddugoliaeth o 5-0 dros Bradford i godi tlws Cwpan Capital One yn Wembley yn 2013.

Enillodd hi bron i ddau draean o bleidleisiau.

Curodd yr Elyrch Reading o 4-2 o dan arweiniad Brendan Rodgers wrth iddyn nhw ddechrau ar daith hanesyddol i’r adran uchaf un, lle arhoson nhw tan iddyn nhw gwympo i’r Bencampwriaeth ddau dymor yn ôl.

Bydd modd gwylio’r gêm ar y we ac ar dudalen Facebook yr Elyrch.

Y gêm

Roedd hatric Scott Sinclair yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i dîm Brendan Rodgers, wrth iddyn nhw godi i’r brif adran am y tro cyntaf ers 1983.

Sgoriodd Scott Sinclair ddwy gôl mewn dwy funud, gan gynnwys cic o’r smotyn, yn yr hanner cyntaf cyn i Stephen Dobbie rwydo’r drydedd cyn yr egwyl i roi mantais o 3-0 i’r Elyrch ar yr hanner.

Roedd helynt yn y twnnel yn ystod hanner amser, wrth i Neil Gibbs, is-reolwr Reading, a’r eilydd Jay Tabb, oedd heb ddod i’r cae, weld cerdyn coch yr un am ymladd.

Tarodd Reading yn ôl ar y cae ar ddechrau’r ail hanner wrth i Joe Allen wyro peniad Noel Hunt i’w rwyd ei hun.

Un gôl oedd ynddi wrth i Matt Mills rwydo ail gôl Reading, ac fe allai Jem Karacan fod wedi unioni’r sgôr pe na bai ei ergyd wedi taro’r postyn.

Daeth ail gôl Scott Sinclair o’r smotyn ar ôl 79 munud i gipio’r fuddugoliaeth.