Mae pump o dimau wedi bod yn aflwyddiannus wrth wneud cais am drwyddedau gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Does dim trwydded Haen Un i Airbus na’r Derwyddon Cefn.

Ac mae’r Gymdeithas wedi gwrthod rhoi trwydded i Brestatyn, oedd ar frig Adran Gogledd Cymru cyn y coronafeirws, yn ogystal â Phrifysgol Abertawe.

Ond mae Hwlffordd wedi cael trwydded.

Mae gan y timau aflwyddiannus ddeg diwrnod i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Fydd dim gemau yng Nghymru tan o leiaf Ebrill 30 oherwydd y coronafeirws.