Mae Pencampwriaethau Ewrop y Merched, oedd i’w cynnal yn Lloegr yr haf nesaf, wedi eu gohirio tan 2022, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Denmarc.

Roedd y newyddion i’w ddisgwyl – nid oherwydd symud Ewro 2020 y Dynion i 2021, ond yn hytrach oherwydd i’r Gemau Olympaidd gael eu gwthio’n ôl. Mae twrnament pêl-droed y Gemau Olympaidd yn bwysig iawn yn nghalendr gêm y merched.

Er nad yw UEFA a’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cadarnhau’r penderfyniad eto, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed  Denmarc, y DBU, ei fod wedi cael ei gytuno yn ystod cynhadledd fideo rhwng aelod-wledydd ddydd Mercher.

Galwodd Cyfarwyddwr y DBU, Jakob Jensen, y penderfyniad  yn un “cyfrifol ac angenrheidiol”.