Mae gêm bêl-droed Wrecsam yn erbyn Barrow wedi’i chanslo ar ôl i un o’u chwaraewyr ynysu ei hun oherwydd coronavirus.

Mae gemau’r Gynghrair Genedlaethol yn mynd yn eu blaenau, yn groes i Uwch Gynghrair Lloegr a’r Gynghrair Bêl-droed.

 

Yn ôl y clwb, mae’r chwaraewr dan sylw wedi cael cyngor meddygol, a dywed y clwb fod ganddyn nhw “ddyletswydd o ofal” i’r staff, gwirfoddolwyr ac eraill.

 

Mae’r clwb yn monitro’r sefyllfa ar hyn o bryd.