Mae’r gêm gyfeillgar rhwng Cymru ac Awstria yn Stadiwm Liberty Abertawe ar y 27ain o Fawrth.

Ddoe fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod y gêm gyfeillgar yn erbyn yr Unol Daleithiau oedd i fod i gael ei chwarae ar Fawrth 30, wedi ei chanslo.

Dywedodd Jonathan Ford, Prif Weithredwr CBDC:

“Rydym yn siomedig gweld unrhyw gêm yn cael ei ganslo neu ei ohirio ond rydym yn gwerthfawrogi fod iechyd a diogelwch cefnogwyr, chwaraewyr a rhanddeiliaid yn hollbwysig ac yn cymryd blaenoriaeth.”

Bydd cefnogwyr sydd eisoes wedi prynu tocynnau i’r gêm sydd wedi ei chanslo, yn derbyn ad-daliad llawn, meddai’r Gymdeithas.