Abertawe 0–0 West Brom                                                               

Cafodd Abertawe bwynt haeddiannol wrth iddynt groesawu West Brom i’r Liberty yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Dechreuodd yr ymwelwyr ar frig y tabl ond chwaraeodd yr Elyrch yn dda ac roeddynt braidd yn anffodus mai gêm gyfartal yn unig a gawsant.

Y tîm cartref a gafodd gyfleoedd gorau’r gêm, cafodd peniad Joe Rodon ei atal ar y llinell yn yr hanner cyntaf a daeth Matt Grimes a Jay Fulton yn agos ar sawl achlysur yn yr ail hanner.

Ond bu rhaid i dîm Steve Cooper fodloni ar bwynt yn y diwedd, pwynt sydd yn achosi iddynt lithro i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl.

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Naughton, Cabango, Rodon, Bidwell, Fulton, Grimes, Kalulu (Dyer 67’), Gallagher, Ayew, Brewster

Cerdyn Melyn: Kalulu 61’

.

West Brom

Tîm: Johnstone, O’Shea, Ajayi, Bartley (Farley 59’), Townsend, Sawyers, Livermore, Krovinovic, Costa Pereira (Edwards 78’), Robson-Kanu, Robinson (Grosicki 58’)

Cerdyn Melyn: O’Shea 20’

.

Torf: 16,788