Barnsley 0–2 Caerdydd                                                                    

Caeodd Caerdydd y bwlch ar safleoedd ail gyfle’r Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn erbyn Barnsley yn Oakwell brynhawn Sadwrn.

Roedd dwy gôl mewn dau funud hanner ffordd trwy’r ail hanner yn ddigon i’r ymwelwyr o Gymru drechu’r tîm o waelodion y tabl.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, daeth y goliau holl bwysig yn agos at ei gilydd yn yr ail hanner.

Chwaraewr canol cae Cymru, Will Vaulks, a gafodd y gyntaf, yn ymateb yn gynt na neb yn y cwrt cosbi.

Daeth yr ail bron yn syth o’r ail ddechrau wrth i Sean Morrison ganfod Callum Paterson cyn i yntau orffen yn daclus.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Neil Harris i’r nawfed safle yn y tabl, ddau bwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Barnsley

Tîm: Collins, Ludewig, Halme, Sollbauer, Williams, Ritzmaier, Thomas, Mowatt, Woodrow, Chaplin (Schmidt 83’), Brown (Simoes Inacio 72’)

.

Caerdydd

Tîm: Smithies, Sanderson, Morrison, Nelson, Bennett, Bacuna, Vaulks, Ralls (Pack 82’), Adomah, Paterson (Glatzel 88’), Hoilett (Murphy 85’)

Goliau: Vaulkes 65’, Paterson 66’

.

Torf: 12,751