Mae Steve Cooper yn galw ar dîm pêl-droed Abertawe i fanteisio ar fod yn “grac a rhwystredig” yn sgil safon y dyfarnu yn y golled yn erbyn Fulham ganol wythnos, wrth i’r Elyrch deithio i Blackburn heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 29).

Mae adroddiadau y bydd Steve Cooper, mab y cyn-ddyfarnwr Keith Cooper o Bontypridd, yn cyfarfod â phenaethiaid dyfarnu’r Gynghrair Bêl-droed i drafod sawl penderfyniad amheus yn ystod y gêm.

Collodd yr Elyrch o 1-0 wrth i Aleksandar Mitrovic rwydo yn y funud olaf yn Craven Cottage, a hynny ar ôl i’w gic o’r smotyn gael ei arbed gan Freddie Woodman ar ôl i’r dyfarnwr benderfynu bod Connor Roberts wedi llorio’r ymosodwr.

Gallai’r Elyrch fod wedi cael cic o’r smotyn hefyd, wrth i Andre Ayew gael ei lorio gan Denis Odoi.

Ar ôl y gêm, dywedodd Steve Cooper fod “natur y penderfyniadau aeth yn herbyn ni yn ei gwneud hi’n fwy rhwystredig fyth”.

“Dw i ddim wedi fy siomi nac yn rhwystredig gyda’r chwaraewyr, i’r gwrthwyneb mewn gwirionedd.

“Fe wnaethon nhw roi popeth heno ac mae’r ffaith fod pedwar penderfyniad wedi mynd o’u plaid nhw, ac nid o’n plaid ni, yn annerbyniol mewn gwirionedd.

“Mae colli’r gêm yn y fath fodd ar sail y penderfyniadau hynny jyst yn annheg.”

Troi eu sylw at Blackburn

“Dw i’n credu ar ôl y gêm yn erbyn Fulham a sut y cawson ni ein trin, mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r ffaith ein bod ni’n grac ac yn rhwystredig i gael dylanwad cryf a phositif ar y gêm, fel y gallwn ni fynd â’r fersiwn orau ohonon ni ein hunain yno,” meddai’r rheolwr ar drothwy’r gêm yn Blackburn.

“Rhaid i ni aros yn gryf ac yn unedig, a pharhau i gynllunio a chwarae fel rydyn ni eisiau i’r tîm ei wneud.

“Os gallwn ni ddangos ein bod ni’n brwydro, a dangos ysfa a balchder fel y gwnaethon ni yn erbyn Fulham, yna fe fyddwn ni’n rhoi cyfle i ni ein hunain.”