Caernarfon 4–0 Derwyddon Cefn                                                

Mae Caernarfon yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ar ôl curo Derwyddon Cefn gartref ar yr Oval nos Wener.

Dim ond un gôl a oedd ynddi ar hanner amser yn y gêm wyth olaf ond newidiodd pethau yn yr ail hanner wrth i’r tîm cartref ychwanegu tair arall yn dilyn cerdyn coch i’r Derwyddon.

Hanner Cyntaf

Cafodd Caernarfon y dechrau perffaith wrth i gic gornel ddadleuol arwain at y gôl agoriadol wedi dim ond naw deg eiliad, Nathan Peate yn gwyro cic gornel Leo Smith i’w rwyd ei hun.

Cafwyd ymateb da gan y Derwyddon ac roedd angen arbediad gwych gan Alex Ramsay i atal Ramirez Howarth un-ar-un cyn i Jamie Reed fethu cyfle da hefyd.

Gwnaeth Ramsay ddau arbediad arall cyn hanner amser, y gôl-geidwad yn atal Reed a Josef Faux, gyda’r ymwelwyr braidd yn anffodus i gyrraedd yr egwyl ar ei hôl hi.

Ail Hanner

Daeth trobwynt y gêm toc cyn yr awr wrth i Naim Arsan dderbyn dau gerdyn melyn o fewn munud i’w gilydd, y cyntaf am gic slei a’r ail am geisio twyllo i ennill cic rydd.

Llwyr reolodd Caernarfon wedi hynny gan sgorio tair gôl yn yr hanner awr olaf.

Gosododd Sion Bradley’r bêl ar blât i Jamie Crowther ar gyfer y gyntaf cyn sgorio’r nesaf ei hun gyda phlym-beniad o groesiad Darren Thomas.

Methodd Thomas gyfle euraidd i rwydo’i ail ef wedi hynny a tharodd smith y postyn gyda chynnig da o ochr yn cwrt cosbi.

Daeth y bedwaredd yn y diwedd a honno a oedd gôl ryfeddaf y noson, os nad y tymor. Sodlodd Gruff John y bêl i geisio’i chadw’n fyw o gic gornel Nathan Craig ac rywsut neu’i gilydd, fe laniodd yn y gôl!

.

Caernarfon

Tîm: Ramsay, Evans, Crowther, Breese (Brookwell 45’), Thomas (Craig 74’), Edwards, John, Clark, Williams, Bradley (Jones 81’), Smith

Goliau: Peate [g.e.h.] 2’, Crowther 64’, Bradley 66’, John 86’

Cerdyn Melyn: Brookwell 48’

.

Derwyddon Cefn

Tîm: Jones, Arsan, Peate, Simpson (Reilly 85’), Cartwright, Howarth, Faux (Daykin 82’), Ashton, Edwards, Edge (Ruberto 71’), Reed

Cardiau Melyn: Arsan 57’, 58’, Simpson 75’, Cartwright 81’

Cerdyn Coch: Arsan 58’