Mae gêm Cwpan Cymru rhwng y Fflint a Phrestatyn wedi ei gohirio heno yn dilyn archwiliad o’r cae, ac felly ni fydd y gêm yn cael ei darlledu ar S4C.

Y hytrach, bydd Sgorio yn dangos y gêm rhwng Caernarfon a Derwyddon Cefn o gae’r Oval.

Yfory (dydd Sadwrn, Chwefror 29) bydd Y Clwb Rygbi yn darlledu’r ornest rhwng y Dreigiau a’r Cheetas, yn fyw o Rodney Parade, gyda’r gic gyntaf am 5:15 yr hwyr.

A ddydd Sul (Mawrth 1) bydd yna gyfle i ail-wylio’r gêm Guinness PRO14 rhwng y Scarlets a Munster yn ei chyfanrwydd am 3.30 y pnawn.