Mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru Joe Ledley wedi ymuno â chlwb Newcastle Jets yng Nghynghrair A Awstralia tan ddiwedd y tymor.

Bydd yn ymuno â’i gyn-gydweithiwr rhyngwladol Carl Robinson, a gafodd ei benodi’n brif hyfforddwr yn gynharach y mis yma.

“Dwi wedi dod yma i chwarae ac rwy’n gwybod y bydd yn rhaid i mi fod ar fy ngorau i ennill lle yn y tîm,” meddai Joe Ledley.

Dechreuodd ei yrfa gyda Chaerdydd ac fe chwaraeodd e i Celtic dros 150 o weithiau ac ennill y gynghrair dair gwaith.

Aeth yn ei flaen i chwarae i Crystal Palace, Derby a Charlton, ac mae e wedi ennill 77 o gapiau dros Gymru.

“Mae record Joe ar lefel ryngwladol a chlwb yn siarad drosto’i hun, mae o’n chwaraewr penigamp ac mae’n wych ei gael o yma am weddill y tymor,” medai Carl Robinson.