Fe fydd tîm pêl-droed Abertawe’n chwilio am gysondeb wrth deithio i Fulham nos Fercher (Chwefror 26), yn ôl y rheolwr Steve Cooper.

Daw’r daith ddyddiau’n unig ar ôl iddyn nhw guro Huddersfield o 3-1 yn Stadiwm Liberty, eu buddugoliaeth gyntaf ers pum gêm.

Ac mae’n gadael y safleoedd ail gyfle o fewn eu gafael o hyd.

“Yr her o hyd yw creu momentwm a chysondeb,” meddai Steve Cooper.

“Dw i erioed wedi gallu cwyno nad yw’r bois yn rhoi o’u gorau, ond fel y rhan fwyaf o dimau yn y gynghrair, mae’n fater o gael cysondeb.

“Does dim gwell amser i wneud hynny nag ar ôl buddugoliaeth a pherfformiad da fel gawson ni dros y penwythnos.”

‘Gall unrhyw beth ddigwydd’

Mae Abertawe’n nawfed yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, ond fe allai hynny newid yn gyfangwbl ar ôl i’r timau eraill chwarae nos yfory (nos Fawrth, Chwefror 25).

Byddan nhw’n teithio i Blackburn wedyn ddydd Sadwrn (Chwefror 29).

Yn ôl Steve Cooper, “gall unrhyw beth ddigwydd” rhwng nawr a diwedd y tymor.

“Mae chwe phwynt i chwarae amdanyn nhw yr wythnos hon,” meddai.

“Mae angen i chi allu canolbwyntio arnoch chi eich hun.

“Chwaraeodd Fulham ddydd Gwener ac mae ganddyn nhw ddiwrnod ychwanegol i ymadfer, ond does dim ots.

“Rhaid i ni ganolbwyntio arnon ni ein hunain.

“Cawson ni gyfarfod y bore ’ma amdanon ni a sut gallwn ni wella ac os ydyn ni’n gwella digon, mae gyda ni’r cyfle gorau.”

Y gwrthwynebwyr

Mae Fulham yn drydydd yn y tabl ar hyn o bryd, ac yn gwthio am le ymhlith y timau fydd yn ennill dyrchafiad awtomatig.

Ac mae Steve Cooper yn disgwyl cryn her oddi cartref ar ôl colli o 2-1 yn y gêm gyfatebol yn Stadiwm Liberty ddechrau’r tymor.

“Rhaid i chi feddwl am yr heriau gwahanol fydd Fulham yn eu rhoi i ni a dewis y tîm cywir ar gyfer hynny,” meddai.

“Os oes rhaid i ni newid un neu ddau beth am ba bynnag reswm, dw i’n siŵr y bydd y chwaraewyr yn barod am yr her.

“Mae [Fulham] yn dîm da ac mae ganddyn nhw lawer o chwaraewyr adnabyddus, a bydd hi’n gêm anodd.

“Cawson ni gêm anodd yn eu herbyn nhw yn fan hyn, ac fe wnaethon ni roi gormod i’n hunain i’w wneud yn yr ail hanner.

“Ond ry’n ni wedi cyrraedd adeg o’r tymor lle mae pob gêm yn bwysig, pwy bynnag rydych chi’n ei herio.

“Rhaid i ni fynd ag ymosod yn y gêm.

“Maen nhw’n gemau anodd ond os ydyn ni am fod yn llwyddiannus, dyma’r math o gêm mae’n rhaid i ni fwynhau mynd i mewn iddi.”