Abertawe 3–1 Huddersfield                                                          

Roedd tair gôl a thri phwynt i Abertawe wrth iddynt groesawu Huddersfield i’r Liberty yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Rhwydodd Ayew yn yr hanner cyntaf cyn i goliau Fulton a Garrick sicrhau’r fuddugoliaeth yn chwarter awr olaf y gêm.

Ychydig llai na hanner awr a oedd ar y cloc pan roddodd Andre Ayew yr Elyrch ar y blaen yn dilyn gwaith da Aldo Kalulu ar yr asgell.

Felly yr arhosodd hi tan ddeuddeg munud o’r diwedd pan wyrodd Steve Mounie ergyd Chris Willock i gefn y rhwyd i unioni’r sgôr.

Ymatebodd y Cymry bron yn syth serch hynny gyda pheniad Jay Fulton yn adfer eu mantais.

Ac roedd y tri phwynt yn ddiogel ym munud olaf y naw deg diolch i gôl Jordon Garrick wedi gwaith creu Conor Gallagher a Rhian Brewster.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Steve Cooper dros Gaerdydd i’r nawfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Naughton, Cabango, Rodon, Bidwell, Fulton (Wilmot 89’), Grimes, Ayew, Gallagher, Kalulu (Garrick 63’), Brewster (Roberts 90+3’)

Goliau: Ayew 28’, Fulton 80’, Garrick 90’

Cerdyn Melyn: Fulton 49’

.

Huddersfield

Tîm: Lossl, Simpson, Stearman, Schindler, Toffolo, King (Smith-Rowe, Hogg, Kachunga (Willock 71’), O’Brien, Bacuna (Mounie 45’), Grant

Gôl: Mounie 78’

Cerdyn Melyn: Hogg 45+2’

.

Torf: 15,148