Fe fydd rhaid i Glwb Pêl-droed Abertawe fod yn ofalus wrth gadw’r ddau Gymro yng nghanol amddiffyn Abertawe yn ffit am weddill y tymor, yn ôl y rheolwr Steve Cooper.

Mae Joe Rodon newydd ddychwelyd ar ôl bod allan am dri mis wedi iddo anafu ei ffêr, ac mae Ben Cabango newydd dorri trwodd i’r tîm cyntaf sy’n golygu nad yw e wedi arfer yn llwyr â’r gofynion ffitrwydd sydd ynghlwm wrth chwarae’n gyson yn y Bencampwriaeth.

Ond mae’n bosib y gallai’r ddau chwarae ran yn y gêm gartref yn erbyn Huddersfield yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn (Chwefror 22).

Ben Cabango

Er yr holl sôn am brinder chwaraewyr yng ngharfan yr Elyrch, canol yr amddiffyn yw un o’r llefydd ar y cae lle mae hen ddigon o ddewis.

Mae hynny’n golygu y bu’n rhaid i’r Cymro Cymraeg Ben Cabango fod yn amyneddgar wrth geisio ennill ei le yn y tîm.

Ond yn ôl Steve Cooper, mae e’n barod i fod yn chwaraewr tîm cyntaf o safon.

“Mae Ben wedi dod yn ei flaen ac wedi manteisio ar ei gyfleoedd ac mae e mewn lle da,” meddai.

“Mae e jest yn mynd trwy’r hyn mae chwaraewyr ifainc yn mynd drwyddo fe wrth dorri trwodd.

“Maen nhw’n dod i mewn, yn ffrwydro ac yn gwneud yn arbennig o dda, ond wedyn maen nhw’n dechrau meddwl gormod am bethau ac mae angen i chi wybod pryd i’w tynnu nhw allan gyda’r bwriad o’u cael nhw nôl i mewn, a dyna le mae e ar hyn o bryd, dw i’n meddwl.

“Fe wnaeth e dorri trwodd ac ry’n ni wrth ein boddau gyda Ben ac yn credu y bydd e’n chwaraewr arbennig i ni.

“Mae e wedi dod trwy’r Academi, Cymro yw e ac yn y blaen, ac mae’n stori wych.

“Ond aeth e drwy broses naturiol o gael ei ddewis i’r tîm cyntaf, gwneud yn dda, bod ar ben ei ddigon ac yn sydyn iawn, cafodd e amser i feddwl ac fe ges i sgwrs gyda fe a dweud ei bod hi’n amser iddo fe bwyllo.

“Roedd ambell beth corfforol yn digwydd iddo fe hefyd ac roedd angen datrys y rheiny neu fe allen nhw fod wedi gwaethygu.

“Ond mae Ben mewn lle da a phe bai e’n cael ei ddewis, fe fydd e’n barod i chwarae.

“Dw i’n hyderus y gallai e chwarae tair gêm mewn wythnos nawr pe bai angen.”

Joe Rodon

Yn y cyfamser, mae Steve Cooper yn dweud bod Joe Rodon yn barod i roi cyfnod anodd y tu ôl iddo.

“Mae’n bosib ein bod ni wedi ei daflu fe’n ôl i mewn yn rhy gynnar.

“Daeth e ymlaen yn erbyn Stoke ac fe wnaethon ni ei daflu fe i mewn yn erbyn Preston ac yn teimlo’i fod e’n barod.

“Roedd hi’n annhebygol iawn y byddai e’n chwarae ar y dydd Sadwrn, wedyn y dydd Mawrth ac wedyn y dydd Gwener.

“Ond fe gafodd e anaf a doedd e ddim ar gael beth bynnag, felly rhaid i chi fod yn ofalus gyda chwaraewyr fel nad ydyn nhw’n cael eu hanafu eto, ond hefyd oherwydd mae’n bosib na fyddan nhw’n gallu perfformio i’r safon sy’n ddisgwyliedig ar ryw ddiwrnod penodol.

“Mae’n anodd egluro hynny’n gyhoeddus drwy’r amser, mae pobol yn gweld y tîm ac mae’r disgwyliadau’n uchel, sy’n ddealladwy, ond fy ngwaith i yw gwneud y penderfyniadau gorau posib.

“Mae Joe yn chwaraewr arbennig a dw i ddim yn poeni am ddweud hynny oherwydd mae e jest eisiau gwella.

“Does dim asgwrn diog yn ei gorff e, ei uchelgais yw parhau i wella a bod y chwarae gorau posib i’r Elyrch.

“Mae e’n gefnogwr mawr ac mae hynny’n bwysig iawn iddo fe felly mae’n dda ei gael e’n ôl.”

Ond dydy’r rheolwr ddim yn barod i ddweud ar hyn o bryd a fydd e’n ôl ar ei orau erbyn i Gymru deithio i Ewro 2020.

“Dw i’n gwybod y bydd e’n gwthio am le yn yr Ewros ond dim ond os yw e’n gwneud yn dda i ni y bydd e’n cael hynny, ac mae hynny’n beth arferol yn y byd pêl-droed rhyngwladol.

“Y cam nesaf iddo fe, wrth i ni ddechrau wythnos lle mae gyda ni dair gêm, yw chwarae ym mhob un ohonyn nhw.”