Abertawe 0–0 QPR                                                                             

Methodd Abertawe gyfle i gamu’n nes at safleoedd ail gyfle’r Bencampwriaeth gyda gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn QPR ar y Liberty nos Fawrth.

Byddai buddugoliaeth wedi codi’r Elyrch o fewn pwynt i’r chwech uchaf ond nid felly y bu wedi perfformiad di fflach arall.

QPR a gafodd y gorau o’r cyfleoedd ond gwnaeth Freddie Woodman yn dda i atal Bright Osayi-Samuel yn yr hanner cyntaf ac roedd Jordan Hugill yn wastraffus yn yr ail.

Gêm gyfartal a oedd y canlyniad gorau y gallai Abertawe fod wedi ei gael o’r gêm o ystyried na chawstant ergyd ar y targed trwy gydol y noson.

Mae’r canlyniad yn codi tîm Steve Cooper dros Gaerdydd i’r nawfed safle ond maent wedi chwarae gêm yn fwy na’r Adar Gleision sydd yn teithio i Huddersfield nos Fercher.

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Roberts, Rodon, Guehi, Naughton, Grimes, Ayew, Gallagher, Dhanda (Kalulu 74’), Celina, Brewster

Cerdyn Melyn: Naughton 90’

.

QPR

Tîm: Kelly, Rangel (Kane 84’), Hall, Barbet, Manning, Ball, Cameron, Osayi-Samuel, Eze, Pugh, Hugill

Cardiau Melyn: Rangel 41’, Osayi-Samuel 56’

.

Torf: 14,778