Casnewydd 0–0 Walsall                                                                   

Mae Casnewydd yn aros yng nghanol tabl yr Ail Adran yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Walsall ar Rodney Parade nos Fawrth.

Cafodd Ryan Inniss gyfle euraidd i agor y sgorio i’r tîm cartref yn y munud cyntaf ond anelodd ei beniad rhydd heibio’r postyn.

A dyna’r agosaf a ddaeth y gêm at gôl mewn gwirionedd wrth i’r ddau dîm orfod bodloni ar bwynt yr un.

Mae’r pwynt hwnnw yn cadw’r Alltudion yn y trydydd safle ar ddeg yn y tabl.

.

Casnewydd

Tîm: King, Leadbitter (Willmott 45+1’), Inniss, Bennett, Demetriou, Labadie, Gorman, Green (Abrahams 77’), Waters (Amond 66’), Khan, Matt

Cerdyn Melyn: Willmott 87’

.

Walsall

Tîm: Roberts, Scarr, Sadler, Jules (McDonald 75’), Norman, Kinsella, Sheron, Guthrie (Sinclair 55’), Pring, Gordon (Adebayo 63’), Lavery

Cardiau Melyn: Gordon 36’, Adebayo 87’

.

Torf: 3,049