Fe fydd Clwb Pêl-droed Abertawe’n monitro ffitrwydd Bersant Celina a George Byers cyn croesawu QPR i Stadiwm Liberty heno (nos Fawrth, Chwefror 11).

Tynnodd Bersant Celina yn ôl o’r garfan ddiwrnod cyn y gêm yn erbyn Derby ddydd Sadwrn (Chwefror 8) ar ôl cael anaf.

Ac fe ddaeth George Byers oddi ar y cae yn ystod y gêm honno oherwydd anaf i’w ffêr.

Yn y cyfamser, mae’r amddiffynnwr canol Mike van der Hoorn yn parhau i wella o anaf i’w ben-glin.

Taro’n ôl

Fe fydd yr Elyrch yn gobeithio rhoi’r siom o golli o 3-2 yn erbyn Derby y tu ôl iddyn nhw wrth iddyn nhw barhau i frwydro am un o’r safleoedd ail gyfle.

“Mae’r gemau’n dod yn gyflym nawr felly mae gyda ni gyfle i geisio gwneud yn iawn a dod dros y siom nos Fawrth,” meddai Yan Dhanda, oedd wedi sgorio chwip o gôl yn y golled.

“Rhaid i ni wella ar y perfformiad yn erbyn Derby a sicrhau’r triphwynt, does dim amheuaeth am hynny.

“Ro’n i’n meddwl mai ni oedd y tîm gorau pan ddaethon ni allan yn yr ail hanner ac roedden ni’n edrych yn hyderus pan aethon ni ar y blaen o 2-1.

“Yn anffodus, fe wnaethon ni adael i hynny lithro ac ildio dwy gôl wael ddylen ni fod wedi eu stopio, felly dw i wedi siomi braidd.”