Abertawe 2–3 Derby                                                                         

Y Cymro, Tom Lawrence, a sgoriodd y gôl fuddugol wrth i Derby drechu Abertawe ar y Liberty yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Aeth yr Elyrch ar y blaen gyda dwy gôl gynnar yn yr ail hanner ond yn ôl y daeth yr ymwelwyr i ennill mewn gêm gyffrous.

Aeth Derby ar y blaen wedi dim ond wyth munud, Martyn Waghorn yn sgorio ar yr ail gyfle wedi i ergyd wreiddiol Lawrence gael ei gwyro yn erbyn y postyn gan Freddie Woodman.

Creodd Yan Dhanda argraff oddi ar y fainc i’r Elyrch yn yr ail hanner a gôl unigol dda ganddo ef a unionodd bethau ddeg munud wedi’r egwyl.

Roedd Abertawe ar y blaen ddau funud yn ddiweddarach, Rhian Brewster yn manteisio ar lanast amddiffynnol i roi gôl ar blât i Kyle Naughton.

Unionodd Duane Holmes bethau i’r ymwelwyr toc wedi’r awr cyn i Lawrence ei hennill hi ddeg munud o’r diwedd, yn gorffen gydag ergyd gadarn wedi gwrthymosodiad chwim.

Mae Abertawe yn llithro i’r nawfed safle yn y tabl wrth i Gaerdydd godi drostynt, goliau wedi’u sgorio yn unig sydd yn gwahanu’r ddau dîm o Gymru sydd bedwar pwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle.

.

Abertawe

Tîm: Woodmanm, Roberts, Guehi, Rodon, Naughton, Grimes, Ayew, Gallagher, Byers (Dhanda 45’), Routledge (Cullen 86’), Brewster

Goliau: Dhanda 56’, Naughton 58’

Cerdyn Melyn: Rodon 90’

.

Derby

Tîm: Hamer, Bogle (Davies 62’), Wisdom, Clarke, Forsyth, Bird, Knight (Shinnie 61’), Holmes, Rooney, Lawrence (Marriott 89’), Waghorn

Goliau: Waghorn 8’, Holmes 64’, Lawrence 80’

Cerdiau Melyn: Bogle 38’, Holmes 53’, Hamer 58’, Wisdom 70’

.

Torf: 16,230