Mae Sam Ricketts, rheolwr tîm pêl-droed Amwythig, yn dweud ei fod e eisiau i’w dîm greu atgofion wrth deithio i Anfield i ail-chwarae yn erbyn Lerpwl yng Nghwpan FA Lloegr heno (nos Fawrth, Chwefror 4).

Fydd nifer o sêr Lerpwl ddim yn chwarae, a bydd y rheolwr Jurgen Klopp yn absennol, wrth iddyn nhw “barchu” seibiant o Uwch Gynghrair Lloegr.

Neil Critchley, rheolwr tîm dan 23 oed Lerpwl, fydd yng ngofal y tîm cartref ar gyfer y gêm.

Dyma’r trydydd tro i Amwythig orfod ail-chwarae gêm yng Nghwpan FA Lloegr, ond mae Sam Ricketts yn dweud eu bod nhw’n “cymryd rowndiau cynnar Cwpan yr FA o ddifri”.

“Rydyn ni eisiau creu atgofion ac eiliadau fel hyn,” meddai’r Cymro.

“Fe fydd yn dipyn o achlysur, fel y gêm gyntaf, y bydd pawb ynghlwm wrtho yn ei gofio am weddill eu bywydau.

“Dyma’n seithfed gêm yn y gystadleuaeth eleni.

“Rydyn ni wedi ennill yr hawl i gael ail-chwarae’r gêm hon ac wedi ennill nifer o gemau anodd er mwyn cyrraedd y sefyllfa hon.

“Rydyn ni eisiau mwynhau’r eiliad hon drwy wneud pethau yn y modd cywir.”

Mae’n wfftio’r awgrym, fodd bynnag, mai ei dîm yw’r ffefrynnau.