Casnewydd 1–0 Macclesfield                                                          

Roedd gôl Joss Labadie yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gasnewydd wrth iddynt groesawu Macclesfield i Rodney Parade yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Daeth y gôl bwysig ddeuddeg munud cyn yr egwyl wrth i Labadie benio heibio Jonathan Mitchell ar yr ail gyfle wedi i’w gynnig gwreiddiol gael ei arbed.

Cafodd Labadie, Josh Sheehan a Jordan Green gyfleoedd i ddyblu mantais y tîm cartref ond profodd yr un gôl yn ddigon.

Mae’r tri phwynt yn codi tîm Mike Flynn i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl, ddeg pwynt o safleoedd y gemau ail gyfle ond gyda gemau wrth gefn.

.

Casnewydd

Tîm: King, Baker, Bennett, Demetriou, Haynes, Sheehan, Green (Waters 73’), Willmott, Labadie, Amond (Abrahams 86’), Matt

Gôl: Labadie 34’

Cerdyn Melyn: Baker 44’

.

Macclesfield

Tîm: Mitchell, Kirby, Kelleher, Horsfall, Fitzpatrick, whitehead, Stephens (Archibald 38’), Harris (Blyth 74’), Osadebe, Gnahoua, Ironside

Cardiau Melyn: Whitehead 31’, Fitzpatrick 88’

.

Torf: 3,354