Caerdydd 2–1 West Brom                                                               

Cafodd Caerdydd fuddugoliaeth dda wrth iddynt groesawu West Brom i Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.

Dechreuodd yr ymwelwyr y noson ar frig y Bencampwriaeth ond ni wnaeth hynny atal yr Adar Gleision rhag sicrhau’r tri phwynt gyda goliau Paterson a Tomlin.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Callum Paterson y tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod, yr Albanwr yn rhwydo wedi i’r Baggies fethu ag ymdopi gyda thafliad hir i’r cwrt cosbi.

Roedd West Brom yn gyfartal ar yr awr wedi i Charlie Austin rwydo o’r smotyn yn dilyn trosedd Jazz Richards ar Filip Krovinovic.

Yn ôl y daeth Caerdydd serch hynny gan ennill y gêm gyda chic rydd wych Lee Tomlin chwarter awr o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn taro West Brom oddi ar y brig ac yn codi Caerdydd i’r hanner uchaf, maent bellach yn ddeuddegfed, bum pwynto’r safleoedd ail gyfle.

.

Caerdydd

Tîm: Smithies, Richards, Morrison, Nelson, Bennett, Pack, Vaulks, Whyte (Bacuna 82’), Paterson, Hoilett (Bamba 90+4’), Glatzel (Tomlin 64’)

Goliau: Paterson 47’. Tomlin 76’

Cerdyn Melyn: Nelson 65’

.

West Brom

Tîm: Johnstone, O’Shea, Bartley (Furlong 77’), Hegazi, Ferguson, Livermore, Sawyers, Phillips, Krovinovic, Edwards (Austin 59’), Robson-Kanu (Zohore 59’)

Gôl: Austin [c.o.s.] 61’

.

Torf: 22,516