Mae Joe Rodon, amddiffynnwr canol Abertawe a Chymru, yn dweud ei bod yn “dda cael bod yn ôl”.

Daeth e i’r cae yn eilydd i Connor Roberts ar ôl 75 munud wrth i’r Elyrch golli o 2-0 yn Stoke ddydd Sadwn (Ionawr 25).

Doedd e ddim wedi chwarae ers tri mis cyn hynny, ar ôl anafu ei ffêr yn y gêm yn erbyn Brentford ym mis Hydref, a chael llawdriniaeth.

Mae pryderon bellach am ei gyd-Gymro Connor Roberts, sydd wedi anafu ei ysgwydd.

Roedd Joe Rodon allan am dri mis yr un adeg y llynedd, ond mae’n gobeithio na fydd e’n dioddef rhagor o anafiadau wrth edrych ymlaen at weddill y tymor.

Fe fydd yr Elyrch yn gobeithio mynd am ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, ac mae gan Gymru haf mawr o’u blaenau gydag Ewro 2020 ar y gorwel.

“Roedd hi’n dda cael bod yn ôl, ychydig yn annisgwyl gyda’r ffordd wnaeth e ddigwydd gyda Connor yn gorfod gadael ac yn amlwg, mae’n destun siom ei fod e wedi digwydd yn ystod colled,” meddai’r chwaraewr ifanc o ardal Llangyfelach y ddinas.

“Ond dw i wrth fy modd o gael bod allan yno eto, a’r nod yw helpu’r bois i geisio gwthio’n sylweddol rhwng nawr a diwedd y tymor.

“Dw i ddim yn un da am wylio, ac roedd hi’n ergyd fod hynny wedi digwydd ar ôl y tymor diwethaf, lle daeth yr anaf o nunlle.

“Dyna’r peth diwethaf ro’n i eisiau iddo ddigwydd, ac roedd yn ofnadwy.

“Roedd yn anodd ei dderbyn ond dw i am roi hynny y tu ôl i fi nawr a pharhau i edrych ymlaen.”