Rhydaman 0–4 Caernarfon                                                             

Mae Caernarfon yn yr het ar gyfer wyth olaf Cwpan Cymru ar ôl trechu Rhydaman ar y Rec yn y bedwaredd rownd nos Wener.

Sgoriodd Sion Bradley a Darren Thomas i’r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf cyn i goliau Noah Edwards ac ail Thomas gwblhau’r grasfa yn yr ail hanner.

Dechreuodd y tîm cartref yn dda ac fe ddylai Gavin Jones fod wedi eu rhoi ar y blaen wedi dim ond dau funud ond cafodd ei atal un-ar-un yn erbyn Alex Ramsay.

Dechreuodd y Cofis reoli’n raddol wrth i’r hanner cyntaf fynd yn ei flaen ac fe roddodd Bradley yr ymwelwyr ar y blaen ugain munud cyn yr egwyl, yn gorffen gydag ergyd isel dda ar ôl derbyn y bêl ar yml y cwrt cosbi.

Roedd honno’n gôl dda ond roedd yr ail yn well fyth, Thomas yn tanio hanner foli o ugain llath i gefn y rhwyd gyda chymorth ochr isaf y bar.

Parhau i reoli a wnaeth Caernarfon wedi’r egwyl gydag Edwards yn rhwydo’r drydedd ddeg munud ar ôl troi, yn gwyro croesiad cadarn Sam Jones ar draws ceg y gôl.

Symudodd y gêm o un pen i’r llall wedi hynny gyda chyfleoedd i’r ddâu dîm ond bu rhaid aros tan chwe munud o’r diwedd am y bedwaredd gôl wrth i ddau sgoriwr yr hanner cyntaf gyfuno, Bradley’n creu a Thomas yn rhwydo.

.

Rhydaman

Tîm: Morris, E. Jones, Lewis, Griffiths, Rh. Fisher, Soal, M. Fisher, Enoch, Frater (Jenkins 78’), Borrelli (Forkuoh 83’), G. Jones

Cardiau Melyn: Robertson 77’, M. Fisher 86’

.

Caernarfon

Tîm: Ramsay, J. Williams, Edwards, Evans, Thomas, Jones (Crowther 73’), Edwards, Clark, R. Williams, Bradley, Smith (Craig 83’)

Goliau: Bradley 26’, Thomas 39’, 84’ Edwards 55’

.

Torf: 1,200