Mae’n debygol y bydd Mike van der Hoorn yn gadael Clwb Pêl-droed Abertawe yn yr haf oni bai eu bod nhw’n ennill dyrchafiad yn ôl i’r Uwch Gynghrair, meddai’r cadeirydd Trevor Birch.

Mae cytundeb yr amddiffynnwr canol, oedd yn gapten y tymor diwethaf ar ôl ymadawiad Leroy Fer, yn dod i ben ddiwedd mis Mehefin.

Ond gan ei fod e wedi llofnodi’r cytundeb pan oedd y clwb yn dal yn yr Uwch Gynghrair, mae’n debygol y byddai’n cael cynnig cytundeb tipyn llai pe bai’r Elyrch yn dal yn y Bencampwriaeth.

Mae’n un o wyth chwaraewr sydd yn yr un sefyllfa, ac wrth i’r Elyrch geisio dygymod â bywyd ar ôl cwympo o’r Uwch Gynghrair, mae angen i’r clwb geisio gwneud toriadau yng nghyflogau’r chwaraewyr.

Fe fu’r cadeirydd yn ymateb i gwestiwn yn ystod fforwm cefnogwyr yng Nghlwb Rygbi Taibach ger Port Talbot neithiwr (nos Iau, Ionawr 23), gyda’r rheolwr Steve Cooper a’r Cyfarwyddwr Chwaraeon Leon Britton hefyd ar y panel.

Cytundebau

Mae Trevor Birch a’r rheolwr Steve Cooper yn cydnabod fod dyfodol sawl chwaraewr yn aneglur ar hyn o bryd, gyda chytundebau’r ymosodwr Borja Baston, y cefnwr Kyle Naughton, y chwaraewyr canol cae Tom Carroll, Yan Dhanda, Nathan Dyer a Wayne Routledge, a’r golwr Erwin Mulder i gyd yn dod i ben.

Mae’n golygu y gallai’r holl chwaraewyr adael y clwb ar ddiwedd y tymor heb fod yr Elyrch yn derbyn ceiniog amdanyn nhw ac me dyfalu y gallai’r ymosodwr Bersant Celina adael am Brighton, er bod Abertawe’n gwadu hynny ar hyn o bryd.

A dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd yr Elyrch yn cadw chwe chwaraewr sydd ar fenthyg chwaith – y golwr Freddie Woodman, yr ymosodwr Rhian Brewster, y chwaraewr canol cae Conor Gallagher, yr amddiffynwyr Marc Guehi a Ben Wilmot, a’r asgellwr Aldo Kalulu.

Ond mae gan un o brif enillwyr ariannol y clwb, yr ymosodwr Andre Ayew, gytundeb tan haf 2021, ac mae Trevor Birch yn dweud ei bod yn annhebygol y bydd y clwb yn ei werthu cyn i’r ffenest drosglwyddo gau ddiwedd y mis.

Uchafbwyntiau eraill y fforwm

Cafodd llu o bynciau eraill eu trafod yn ystod y noson – o statws yr Academi i’r perchnogion Americanaidd, Jason Levien a Steve Kaplan.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

  • Fe ddaeth cadarnhad gan Trevor Birch na fydd statws yr Academi yn cael ei is-raddio o fod yn Gategori 1. Ond mae’n cydnabod fod adolygiad ar y gweill ynghylch cynnal dau safle, y naill yn ardal Glandŵr a’r llall yn Fairwood.

 

  • Mae hefyd yn dweud mai polisi swyddogol y clwb bellach yw meithrin y to iau, a hynny am resymau ariannol, gyda’r arian parasiwt am ostwng o’r Uwch Gynghrair yn dod i ben yn haf 2021.

 

  • Ac mae’n gwadu mai’r prif reswm y cafodd ei benodi’n gadeirydd yw ei record wrth werthu clybiau. Fe fu’n gyfrifol yn y gorffennol am werthu Chelsea i Roman Abramovich, a hefyd am werthu clybiau Portsmouth, Derby a Sheffield United.

 

  • Fe wnaeth Steve Cooper gadarnhau ei fod e’n disgwyl i sawl chwaraewr adael y clwb cyn i’r ffenest drosglwyddo gau. Mae Barrie McKay, Tom Carroll a Declan John ymhlith y rhai sydd prin wedi ymddangos y tymor hwn.

 

  • Ond un sy’n debygol o aros yn y tymor hir, meddai’r rheolwr, yw Marc Guehi. Mae’r amddiffynnwr wedi arwyddo ar fenthyg o Chelsea tan ddiwedd y tymor. Ond mae Steve Cooper yn dweud ei fod e’n disgwyl iddo fod gyda’r clwb y tu hwnt i hynny.