Mae disgwyl i Gymdeithas Pêl-droed Cymru gynyddu eu mesurau diogelwch pan fydd tîm pêl droed yr Unol Daleithiau yn ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gem gyfeillgar ddiwedd mis Mawrth.

Dyma fydd y tro cyntaf i dîm chwaraeon cenedlaethol o’r Unol Daleithiau deithio i wledydd Prydain ers i’r Cadfridog Qassem Soleimani, arweinydd ymgyrchoedd milwrol Iran, gael ei ladd gan luoedd yr Unol Daleithiau yn Baghdad.

Mae Iran wedi dweud y bydd yn dial ar yr Unol Daleithiau wedi’r ymosodiad.

O ganlyniad i “densiynau cynyddol” yng Ngheufor Persia bu’n rhaid i dîm pêl droed yr Unol Daleithiau ohirio eu hyfforddiant diweddar yn Quatar.

Mae Cymdeithas Bel-droed Cymru yn gobeithio bydd eu profiad o gynnal gem derfynol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Real Madrid a Juventus yn Stadiwm y Principality yn 2017 o gymorth iddyn nh2 wrth wneud trefniadau diogelwch.

Mae nifer o gefnogwyr Cymru wedi croesawu’r newyddion gan ddweud mai “diogelwch yw’r flaenoriaeth ymhob digwyddiad chwaraeon”.

Yn ôl Llion Carbis byddai’r gêm yn gyfle gwych i Gymru baratoi ar gyfer Ewro 2020. Mae’r mesurau diogelwch yn rhai “synhwyrol” meddai, ac yn “fodd o leddfu unrhyw bryderon posib sydd gan gefnogwyr sy’n dymuno mynychu’r gêm”.

Dyma fyddai gem olaf Cymru gartref cyn iddyn nhw deithio i Baku ar gyfer eu gem gyntaf yn erbyn y Swistir yn Ewro 2020 ar Fehefin 13.