Fe fu’n benwythnos cymysg i dimau Cymru yng Nghwpan FA Lloegr.

Collodd Abertawe a Chasnewydd, tra bydd rhaid i Gaerdydd chwarae eto yn erbyn Caerliwelydd (Carlisle) ar ôl gêm gyfartal 2-2.

QPR 5 Abertawe 1

Sgoriodd Jordan Hugill ddwy gôl wrth i QPR roi crasfa o 5-1 i’r Elyrch i sichrau eu lle yn y bedwaredd rownd.

Roedd gôl hefyd i Bright Osayi-Samuel cyn i George Byers gipio unig gôl yr Elyrch i’w gwneud hi’n 3-1.

Ond rhwydodd Lee Wallace gyda foli ar ôl 76 munud cyn i Josh Scowen daro chwip o ergyd i gau pen y mwdwl ar y canlyniad.

Millwall 3 Casnewydd 0

Roedd Millwall yn rhy gryf i Gasnewydd, wrth iddyn nhw gael eu trechu o 3-0 yn y New Den.

Sgoriodd Matt Smith ar ôl saith munud o gic gornel.

Dylai’r Alltudion fod wedi uioni’r sgôr yn gynnar yn yr ail hanner, ond doedd Jamille Matt ddim yn gallu trosi’r cyfle.

Sgoriodd Connor Mahoney o’r smotyn i ddyblu mantais Millwall cyn i’r Cymro Tom Bradshaw sgorio’r drydedd.

Caerdydd 2 Caerliwelydd 2

Bu’n rhaid i Gaerdydd daro’n ôl i sicrhau ail gyfle yn erbyn Caerliwelydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, wrth i’r gêm orffen yn gyfartal 2-2.

Methodd Jack Bridge â chic o’r smotyn cyn sgorio gôl gynta’r Saeson, a daeth ail gôl cyn yr egwyl gyda pheniad gan Harry McKirdy.

Roedd perfformiad yr Adar Gleision dipyn gwell yn yr ail hanner, ac fe wnaethon nhw unioni’r sgôr o fewn deng munud.

Sgoriodd Callum Paterson a Gavin Whyte y ddwy gôl ac fe wnaethon nhw ymosod yn ffyrnig am weddill y gêm i geisio sicrhau’r gôl fuddugol.