Mae cyn-amddiffynnwr Caerdydd a Chymru Alan Harrington wedi marw yn 86 oed.

Gwnaeth dros 400 ymddangosiad i’w unig dîm, Caerdydd rhwng 1951 a 1966, ac mae’n cael ei ystyried yn un o chwaraewyr gorau’r clwb erioed.

Enillodd y chwaraewr o Benarth 11 cap dros Gymru gan helpu’r wlad i gyrraedd Cwpan y Byd yn 1958 – er iddo fethu’r twrnament oherwydd anaf i’w ysgwydd.

Dywedodd Undeb Bêl-droed Cymru: “Rydym yn drist iawn i glywed am farwolaeth Alan Harrington.

“Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys gyda theulu a ffrindiau Alan yn ystod y cyfnod hwn.”

Tra bod Caerdydd wedi dweud: “Mae’r clwb yn drist i glywed bod un o’n cewri, Alan Harrington, a dreuliodd ei holl yrfa gyda Chaerdydd rhwng 1951-1966 wedi marw.”

Bu Alan Harrington yn reolwr ar Y Barri yng Nghynghrair Cymru am gyfnod wedi iddo ymddeol.

Mae’n gadael ei wraig Gloria a’i ferched Judith a Rachel.