Caerdydd 0–0 Preston                                                                      

Gêm gyfartal ddi agôr a gafwyd yn Stadiwm y Ddinas amser cinio ddydd Sadwrn wrth i Gaerdydd wynebu Preston yn y Bencampwriaeth.

Y Cymro, Billy Boden, a oedd prif fygythiad yr ymwelwyr yn yr hanner cyntaf ond llwyddodd Neil Etheridge I gadw llechen lân yn y gôl i Gaerdydd.

Parhau i reoli a wnaeth Preston am rannau helaeth o’r ail hanner cyn i Gaerdydd orffen yn gryf. Prin a oedd y cyfleoedd serch hynny ar wahân i gynnig hwyr Lee Tomlin.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Neil Harris yn ddeuddegfed yn y tabl hanner ffordd union trwy’r tymor.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Flint, Nelson, Richards, Bacuna, Pack, Mendez-Laing (Paterson 85’), Tomlin, Murphy (Ward 62’), Glatzel (Madine 62’)

Cerdyn Melyn: Tomlin

.

Preston

Tîm: Rudd, Clarke, Bauer, Huntington, Hughes, Pearson, Gallagher (Potts 85’), Bodin (Stockley 86’), Browne, Maguire, Barkhuizen (Nugent 74’)

Cardiau Melyn: Clarke, Gallagher

.

Torf: 22,265