Abertawe 1–1 Blackburn                                                                 

Gôl yr un a orffennodd hi ar y Liberty wrth i Abertawe a Blackburn orffen gyda deg dyn yn eu gêm Bencampwriaeth nos Fercher.

Sgoriodd Danny Graham ac Andre Ayew yn yr hanner cyntaf cyn i Tom Carroll a Bradley Dack gael eu hanfon o’r cae yn yr ail.

Pedwar munud yn unig a oedd ar y cloc pan rwydodd Graham i roi Blackburn ar y blaen yn ebryn ei gyn glwb, yn rhwydo o groesiad Adam Armstrong.

Roedd Abertawe’n gyfartal ychydig funudau’n ddiweddarach pan beniodd Ayew o gic gornel Matt Grimes, ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Aeth yr Elyrch i lawr i ddeg dyn ddeuddeg munud wedi’r egwyl pan dderbyniodd Carroll ei ail gerdyn melyn. Ymunodd Dack ag ef am gawod gynnar ddeg munud yn ddiweddarach, yn derbyn ei ail felyn ef am dacl ar Grimes a oedd yn haeddu coch ar ei phen ei hun.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd wedi hynny ond bu rhaid iddynt fodloni ar gôl yr un a phwynt yr un.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Steve Cooper yn yr unfed safle ar ddeg yn y tabl

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Roberts, Cabango, van der Hoorn, Bidwell, Byers, Grimes, Carroll, Ayew, Surridge, Celina (Kalulu 79’)

Gôl: Ayew 10’

Cardiau Melyn: Dack 8’, 67’

Cerdyn Coch: Dack 67’

.

Blackburn

Tîm: Walton, Nyambe, Lenihan, Adarabioyo, Downing, Travis, Evans (Holtby 65’), Armstrong, Dack, Rothwell (Bennett 56’), Graham (Gallagher 72’)

Gôl: Graham 4’

Cardiau Melyn: Carroll 32’, 57’

Cerdyn Coch: Carroll 57’

.

Torf: 14,162