Brentford 2–1 Caerdydd                                                                  

Collodd Caerdydd am y tro cyntaf o dan ofal Neil Harris wrth iddynt deithio i Griffin Park i wynebu Brentford yn y Bencampwriaeth nos Fercher.

Rhoddodd goliau Mbeumo a Watkins y tîm cartref ar y blaen gan olygu mai rhy ychydig rhy hwyr a oedd gôl Pack i’r Adar Gleision.

Pum munud ar hugain a oedd ar y cloc pan roddodd Bryan Mbeumo Brentford ar y blaen yn dilyn sgiliau slic Said Benrahma.

Dyblodd y tîm cartref eu mantais funud wedi’r egwyl gyda Benrahma unwaith eto yn creu, Ollie Watkins yn rhwydo gyda pheniad y tro hwn.

Tynodd Caerdydd un yn ôl hanner ffordd try’r ail hanner gyda symudiad cic rydd taclus yn syth o’r cae ymarfer, Lee Tomlin yn gosod y bêl i Marlon Pack ac yntau yn anelu taran o ergyd i gefn y rhwyd gyda chymorth y postyn.

Cafodd yr Adar Gleision hanner cyfleoedd eraill wedi hynny ac roedd Brentford yn edrych yn beryglus wrth wrthymosod hefyd. Ond nid oedd gôl i fod yn y naill ben na’r llall, 2-1 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad, colled gyntaf Harris, yn gadael ei dîm yn nawfed yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Brentford

Tîm: Raya, Dalsgaard, Jansson, Pinnock, Henry, Jensen, Norgaard (Mokotjo 73’), Dasilva, Mbeumo (Jeanvier 84’), Watkins, Benrahma

Goliau: Mbeumo 25’, Watkins 46’

Cardiau Melyn: Jansson 76’, Henry 80’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Flint, Nelson, Bennett, Bacuna, Pack, Mendez-Laing (Madine 61’), Tomlin, Hoilett (Murphy 22’), Ward (Paterson 81’)

Gôl: Pack 64’

Cardiau Melyn: Murphy 70’, Bennett 83’

.

Torf: 10,417