Fe fydd tîm pêl-droed Abertawe’n mynd am fuddugoliaeth gartref brin heno (nos Fercher, Rhagfyr 11), wrth iddyn nhw groesawu Blackburn i Stadiwm Liberty.

Dydyn nhw ddim wedi ennill gartref yn y Bencampwriaeth ers iddyn nhw guro Caerdydd o 1-0 ar Hydref 27.

Mae tîm Steve Cooper wedi llithro i’r unfed safle ar ddeg, tra bod yr ymwelwyr un safle uwch eu pennau ond hefyd wedi ennill 30 o bwyntiau hyd yn hyn.

Y gêm heno yw’r gyntaf o bum gêm i’r Elyrch cyn diwedd y flwyddyn ac felly mae’n cael ei ystyried yn gyfnod pwysig i dîm Steve Cooper wrth iddyn nhw geisio codi i fyny’r tabl unwaith eto.

Er eu bod nhw wedi llithro, dim ond pedwar pwynt sy’n eu gwahanu nhw a safleoedd y gemau ail gyfle.

Amheuon am Wayne Routledge

Mae amheuon ar drothwy’r gêm am ffitrwydd yr asgellwr Wayne Routledge.

Dydy e ddim wedi chwarae ers iddo anafu ei goes yn y gêm yn erbyn Millwall fis diwethaf, ond y gobaith yw y bydd e’n holliach ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn Middlesbrough. 

Fe allai Kristoffer Peterson chwarae ar yr asgell yn dilyn cadarnhad gan Steve Cooper mai penderfyniad tactegol oedd ei eilyddio ar yr egwyl yn y gêm yn erbyn West Brom, wrth i’r Elyrch golli o 5-1 yn yr Hawthorns.

Yn cyfamser, mae awgrym y gallai Danny Graham, cyn-ymosodwr Abertawe, orffwys ar gyfer y gêm ynghyd â Stewart Downing, cyn-chwaraewr canol cae Lloegr.