West Brom 5–1 Abertawe                                                              

Colli’n drwm fu hanes Abertawe wrth iddynt deithio i’w Hawthorns i wynebu West Brom yn y Bencampwriaeth brynhawn Sul.

Sgoriodd Hal Robson-Kanu ei chweched gôl mewn naw gêm wrth i’r tîm cartref rwydo pump yn erbyn yr ymwelwyr o Dde Cymru.

Aeth West Brom ar y blaen wedi 25 munud, Semi Ajayi yn rhwydo wedi i Kyle Bartley benio cic gornel Matheus Pereira i’w lwybr.

Pereira a oedd yn rheoli pethau i’r tîm cartref ac ef a ddyblodd eu mantais ddeg munud yn ddiweddarach, yn gorffen yn daclus yn dilyn gwaith da Kieran Gibbs i lawr y chwith.

Tynodd Sam Surridge un yn ôl i’r Elyrch gyda gôl flêr o gic gornel ond adferodd West Brom eu dwy gôl o fantais cyn yr egwyl.

Y Cymro sydd ar rediad da, Robson-Kanu, a gafodd y drydedd, yn crymanu’r bêl heibio i Freddie Woodman yn y gôl wedi pas dreiddgar Pereira.

Parhau i reoli a wnaeth West Brom a Pereira yn yr al hanner, y gŵr o Bortiwgal yn croesi i Matt Phillips benio’r bedwaredd cyn creu’r bumed i Kyle Edwards.

Mae’r canlyniad yn codi’r Baggies i frig y tabl ond mae’r Elyrch yn llithro i’r unfed safle ar ddeg.

.

West Brom

Tîm: Johnstone, Ferguson, Bartley (Hegazi 66’), Ajayi, Gibbs (Furlong 56’), Sawyers, Livermore, Phillips, Costa Pereira, Diangana (Edwards 71’), Robson-Kanu

Gôl: Ajayi 25’, Costa Pereira 34’, Robson-Kanu 44’, Phillips 70’, Edwards 77’

Cerdyn Melyn: Ferguson 53’

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Roberts, Wilmor, van der Hoorn, Naughton, Fulton, Grimes, Ayew (Kalulu 83’), Byers (McKay 75’), Peterson (Dyer 45’), Surridge

Gôl: Surridge 39’

Cardiau Melyn: Grimes 40’, Fulton 50’

.

Torf: 22,297