Wrecsam 2–0 Solihull                                                                       

Cododd Wrecsam o safleoedd disgyn Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda’u hail fuddugoliaeth mewn wythnos, yn trechu Solihull ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Omari Patrick a James Jenning a gafodd y goliau holl bwysig wrth i bethau ddechrau edrych yn well i’r Dreigiau ar waelodion y tabl.

Ugain munud a oedd ar y cloc pan roddodd Patrick y tîm cartref ar y blaen, yn troi ei ddyn ar ochr y cwrt cosbi yn anelu ergyd gadarn i’r gornel isaf.

Tarodd Jamey Osborne y trawst gyda chic rydd i’r ymwelwyr wedi hynny ond roedd Wrecsam ddwy ar y blaen wrth droi diolch i ergyd dda James Jennings ym munud olaf yr hanner.

Bu’n rhaid i’r Dreigiau amddiffyn am gyfnodau mewn ail hanner tanllyd ond daliodd y Cymry eu gafael i sicrhau ail fuddugoliaeth mewn pum diwrnod.

Mae’r tri phwynt yn codi tîm Dean Keates allan o’r pedwar isaf, i’r ugeinfed safle yn y tabl.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Jennings, Pearson, Carrington, Young, Lawlor, Grant, Rutherford, Kennedy, Patrick (Oswell 82’), Wright

Gôl: Patrick 21’, Jennings 45’

Cardiau Melyn: Kennedy 45’, Lainton 45’, Wright 80’, Harris 82’, Oswell 90+1’

.

Solihull

Tîm: Boot, Reckord (Williams 78’), Storer, Gunning (Wright 54’), Osborne, Gudger, McCallum, Vaughan, Howe, Ball, Beesley (Blissett 78’)

Cardiau Melyn: McCallum 49’, Wright 68’, Blissett 84’, Hoe 90+1’

.

Torf: 3,113