Caerfyrddin 0–4 Rhydaman                                                            

Roedd sioc yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD nos Wener wrth i Rydaman deithio i Barc Waun Dew a rhoi crasfa i Gaerfyrddin.

Sgoriodd yr ifanc, Gavin Jones, a’r profiadol, Lee Trundle, ddwy gôl yr un wrth i’r tîm o gynghrair Cymru’r De drechu eu gwrthwynebwyr o’r Cymru Premier.

Wedi chwarter cyntaf digon cyfartal, dechreuodd Rhydaman greu mwy o gyfleoedd yn ail hanner yr hanner cyntaf.

Creodd Trundle un iddo’i hun gyda throad nodweddiadaol yn y cwrt cosbi ond cafodd ei ergyd isel ar draws y gôl ei harbed yn dda gan Lee Idzi.

Daeth gôl i’r ymwelwyr ddau funud cyn yr egwyl, pas dreiddgar Matthew Fisher yn rhyddhau Gavin Jones a’r ymosodwr bach yn gorffen yn daclus.

Caerfyrddin a ddechreuodd orau wedi’r egwyl ond dyblodd Rhydaman eu mantais wedi deg munud gyda gôl unigol wych gan Jones, y gwibiwr yn rhwydo’i ail o’r noson gyda tharan o ergyd ar ôl curo dau amddiffynnwr yn rhwydd.

Cafodd Caerfyrddin gyfnod da wedi hynny hefyd ond roedd y gêm allan o’u gafael wedi i Trundle rwydo trydedd yr ymwelwyr chwarter awr o’r diwedd, yn curo Idzi gyda blaen-troedar hen ffasiwn.

Os oedd ail gôl Jones y un dda, roedd ail Trundle yn hyd yn oed gwell. Rhwbiodd y gŵr 43 mlwydd oed yr halen ym mriwiau Caerfyrddin dri munud o’r diwedd, yn rheoli pêl hir ar ei fron cyn troi ei ddyn yn grefftus a chrymanu ergyd berffaith i gornel isaf y rhwyd.

.

Caerfyrddin

Tîm: Idzi, Knott, Vincent (Bull 78’), Surman, Carroll, Walters, Bowen, Harling (Woodford 25’), Jones, Morgan, Thomas

Cerdyn Melyn: Surman 81’

.

Rhydaman

Tîm: Morris, M. Jones, Lewis (Glendon 77’), Griffiths, Rh. Fisher, Soal, M. Fisher, Enoch, Frater (Jenkins 72’), Trundle. G. Jones (Arnold 83’)

Gôl: G. Jones 44’, 55’, Trundle 75’, 87’

Cerdyn Melyn: Trundle 49’

.