Mae rheolwr Real Madrid Zinedine Zidane wedi dweud nad yw’n bwriadu rhwystro Gareth Bale rhag chwarae golff.

Ni fydd y Cymro yn chwarae mewn gêm gartref yn erbyn Espanyol ddydd Sadwrn (Rhagfyr 7) oherwydd anaf.

Mae Gareth Bale wedi cyfaddef ei fod yn angerddol am chwarae golff, ac mae ei gyd chwaraewyr ym Madrid bellach yn cyfeirio ato fel “Y Golffiwr”.

Mae rheolwr Cymru Ryan Giggs wedi dweud na fydd Cymru yn caniatáu iddo chwarae golff yn ystod Ewro 2020 haf nesaf.

Pan ofynnwyd i Zinedine Zidane a ddylai Real Madrid rwystro Gareth Bale rhag chwarae golff, dywedodd: “Dw i ddim am rwystro unrhyw un o fy chwaraewyr rhag gwneud unrhyw beth yn eu hamser rhydd.”

Dechreuodd Gareth Bale ei gêm gyntaf i’r clwb ers Hydref 5 mewn buddugoliaeth o ddwy gôl i un yn erbyn Alaves y penwythnos diwethaf.

Yn yr un cyfnod mae Gareth Bale wedi chwarae pedair gêm i Gymru wrth iddyn nhw ennill eu lle yn Ewro 2020.