Fe fydd Ryan Giggs yn penderfynu dros yr wythnosau nesaf ym mle fydd carfan Cymru’n bwrw gwreiddiau yn ystod cystadleuaeth bêl-droed Ewro 2020 haf nesaf.

Bydd y tîm yn wynebu’r Swistir (Mehefin 13) a Twrci (Mehefin 17) yn Azerbaijan cyn teithio i Rufain i herio’r Eidal (Mehefin 21).

Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het yn Bucharest neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 30), wrth i Gymru ddarganfod ym mle fyddai eu gemau.

“Bydd ein dwy gêm gyntaf yn Baku felly mae gyda ni’r posibilrwydd o aros yno yn dibynnu ar y cyfleusterau a’r gwres, felly mae’n well cael dewis na pheidio,” meddai’r rheolwr.

“Byddwn ni’n cyfarfod â’r tîm ac yn edrych ar y cyfleusterau. Roedden nhw’n wych pan oedden ni yno.

“Gyda dwy gêm yno, gall Azerbaijan ein mabwysiadu ni fel ail wlad.”

Y rowndiau terfynol

Pe bai Cymru’n llwyddo i gyrraedd rownd yr 16 olaf wrth orffen yn yr ail safle, bydden nhw’n teithio i Amsterdam i herio’r tîm sy’n gorffen yn ail yng ngrŵp B.

Pe baen nhw’n gorffen ar y brig, bydden nhw’n chwarae yn Wembley.

Ac mae Ryan Giggs yn gwybod fod ganddo fe gyfle euraid i efelychu camp tîm Chris Coleman yn Ffrainc yn 2016.

“Roedd heno’n eiliad balch ond nid fi sy’n bwysig,” meddai.

“Mae’n fater o Gymru’n cystadlu ac yn cyrraedd pob twrnament mawr.”