Ebbsfleet 2–1 Wrecsam                                                                   

Mae Wrecsam ar waelod Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ôl colli yn erbyn Ebbsfleet ar Stonebridge Road brynhawn Sadwrn.

Dechreuodd Ebbsfleet y dydd ar waelod y tabl ond Wrecsam sydd bellach yn y safle hwnnw wedi i gôl hwyr Myles Weston gipio’r tri phywnt i’r tîm cartref.

Aeth Ebbsfleet ar y blaen wedi dim ond deg munud pan wyrodd ergyd Tomi Adeloye oddi ar James Jennings, heibio i Rob Lainton, ac i gefn y rhwyd.

Roedd y Dreigiau’n gyfartal ar yr egwyl serch hynny diolch i gôl Kieran Kennedy wedi hanner awr o chwarae.

Felly yr arhosodd hi tan chwarter awr o’r diwedd pan adlamodd cic gornel yn garedig i Weston ar ochr y cwrt cosbi cyn iddo anelu ergyd gadarn i gefn y rhwyd.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Dean Keates ar waelod y tabl, union hanner ffordd trwy’r tymor.

.

Ebbsfleet

Tîm: Holmes, Ekpiteta, King, Weston, Blackman, Cordner, Lawless, Payne, Egan (Sutherland 76’), Ugwu, Adeloye (Reid 60’)

Goliau: Jennings [g.e.h.] 10’, Weston 74’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Jennings, Pearson, Wright, Lawlor, Kennedy, Summerfield, Young, Rutherford (Harris 79’), Grant, Patrick

Gôl: Kennedy 30’

Cardiau Melyn: Pearson 65’, Young 88’

.

Torf: 1,036