Abertawe 1–2 Fulham                                                                      

Roedd dwy gôl hanner cyntaf Alekandar Mitrovic yn ddigon i Fulham guro Abertawe ar y Liberty yn y Bencampwriaeth nos Wener.

Rheolodd yr Elyrch rannau helaeth o’r gêm ond roedd dwy gôl mewn cyfnod o ugain munud gan brif sgoriwr y gynghrair yn ddigon i’r ymwelwyr er gwaethaf gôl ail hanner George Byers.

Abertawe a ddehcreuodd orau a gwastraffodd Sam Surridge gyfle euraidd i’w rhoi ar y blaen yn y munudau cyntaf, yn anelu’n syth at Marek Rodak yn y gôl. Daeth Byers yn agos i’r Elyrch hefyd, yn taro’r postyn gydag ergyd isel.

Er i’r tîm cartref reoli’r ugain munud cyntaf, yr ymwelwyr a aeth ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner. Mitrovic yn penio i gefn y rhwyd wedi i gynnig gwreiddiol Aboubakar Kamara adlamu’n garedig iddo oddi ar y trawst.

Ac roedd hi’n ddwy i Fulham cyn hanner amser, Mitrovic yn sgorio’i ail, yn gorffen yn dda gydag ergyd gadarn i do’r rhwyd wedi croesiad isel Ivan Cavaleiro.

Roedd Byers yn amlwg trwy gydol y gêm ac ef a dynnodd gôl yn ôl i Abertawe hanner ffordd trwy’r ail hanner, yn penio’n gywir o groesiad Barrie McKay.

Pwysodd yr Elyrch am ail wedi hynny ond dal eu gafael a wnaeth Fulham. Mae’r canlyniad yn gadael tîm Steve Cooper yn chweched yn y tabl ond gall hynny newid wedi gemau dydd Sadwrn.

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Roberts, Wilmot, van der Hoorn, Naughton, Fulton (Carroll 74’), Grimes, Ayew, Byers, Peterson (McKay 58’), Surridge (Baston 84’)

Gôl: Byers 65’

.

Fulham

Tîm: Rodak, Odoi, Mawson, Ream, Bryan, Johansen, Cairney, Kamara (McDonald 74’), Onomah (Christie 79’), Cavaleiro (Knockaert 85’), Mitrovic

Goliau: Mitrovic 22’, 43’

Cerdyn Melyn: Kamara 32’

.

Torf: 16,024