Fe fydd Ben Cabango yn torri drwodd ac yn chwarae’n rheolaidd i dîm pêl-droed Abertawe “y tymor hwn neu’r tymor nesaf”, yn ôl y rheolwr Steve Cooper.

Daw ei sylwadau wrth gyfarfod â’r wasg ychydig ddiwrnodau ar ôl i’r Cymro Cymraeg o Gaerdydd ddisgleirio wrth ddod i’r cae yn eilydd yng nghanol yr amddiffyn yn y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Huddersfield nos Fawrth (Tachwedd 26).

Mae ansicrwydd o hyd ynghylch ffitrwydd Mike van der Hoorn ar drothwy’r gêm yn erbyn Fulham yn Stadiwm Liberty heno (nos Wener, Tachwedd 29), ac fe fu’r chwaraewr 19 oed yn paratoi i gamu i’w esgidiau unwaith eto pe bai angen.

“Dw i wedi crybwyll ei enw fe sawl gwaith ac wedi dweud na fyddai gyda fi broblem wrth ei ddewis e i Abertawe’n rheolaidd, naill ai’r tymor hwn neu’r tymor nesaf,” meddai Steve Cooper wrth golwg360.

“Dyna ein cynllun ni iddo fe, beth bynnag. Roedd ei brofiad cynta’n un da. Mae e wedi chwarae yng Nghwpan y Gynghrair ac wedi gwneud yn dda hefyd, felly mae e mewn lle da.

“Mae e’n foi da, yn ymarfer yn dda, eisiau dysgu, eisiau gwella. Mae e’n boblogaidd iawn ymhlith y bois eraill hefyd.

“Wnaethon ni ei symud e i mewn i’r brif garfan ychydig wythnosau’n ôl oherwydd roedden ni’n teimlo ei fod e wedi ennill yr hawl o ran y ffordd mae e wedi cario’i hun.”

‘Gwefr’

Yn ôl Steve Cooper, teimlodd Ben Cabango wefr o gael chwarae yn ei gêm gynghrair gyntaf i’r Elyrch.

“Roedd e’n falch iawn a dw i’n meddwl fod modd edrych ar y peth mewn dwy ffordd pan fo chwaraewr ifanc yn cael cyfle ac yn torri drwodd,” meddai.

“Dylech chi’n sicr gydnabod y cyrhaeddiad oherwydd dyna uchelgais chwaraewr ifanc. Maen nhw’n gwybod mai’r cam nesaf yw chwarae i’r tîm cyntaf.

“Ond ar yr un pryd, rhaid i chi gadw’n dawel a chadw eich traed ar y ddaear a gwybod, o fod yn rhan o’r tîm cyntaf, fod gêm arall ar y gweill yn fuan iawn.

“Felly mae angen iddo fe ddelio â’r holl emosiwn hefyd. Ond dyna ry’n ni wedi’i weld ganddo fe. Ry’n ni wedi gweld y wên fawr ar ei wyneb e ar adegau.”

‘Dim byd i’w golli’

Dywed Steve Cooper fod traed Ben Cabango yn gadarn ar y ddaear ar ôl ei gêm gynghrair gyntaf, ac nad oedd ganddo fe ddim byd i’w golli fel eilydd.

“Roedd e’n ddigwyddiad mawr iddo fe, o flaen torf o 20,000 y noson o’r blaen, ac yn erbyn tîm oedd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

“Erbyn hanner amser, roedd hi’n gêm ddiddorol, gêm gystadleuol yn sicr, ac fe wnaeth e’n dda.

“Byddai e ar ben ei ddigon bryd hynny, ond yn gwybod ar yr un pryd fod gêm arall i baratoi ar ei chyfer hi o fewn deuddydd.

“Dw i’n dweud o safbwynt yr holl chwaraewyr ifainc na fydden ni’n meddwl llai ohonyn nhw na’u potensial [pe na baen nhw’n chwarae’n dda]. Profiad i ddysgu ohono fe yw pob profiad.

“Pan fo’r chwaraewyr yn dod i mewn, rydych chi eisiau iddyn nhw wneud yn dda er lles pawb.

“Os ydyn nhw’n gwneud yn dda, grêt ac mae angen i chi ddelio â hynny hefyd, ond os nad ydyn nhw, dydyn ni ddim am fod yn naïf a chredu bod cyfle wedi’i golli.”

Torri’i gwys yng Nghynghrair Cymru

Ar ôl symud o Gasnewydd i Academi Abertawe, fe ddaeth e’n gapten ar y tîm dan 19 a gipiodd Gwpan Ieuenctid Cymru yn 2018, ac roedd e’n aelod o dîm dan 23 yr Elyrch a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan yr Uwch Gynghrair.

Aeth ar fenthyg i’r Seintiau Newydd yn ystod haf 2018, gan chwarae yng ngemau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr, cyn dychwelyd i Abertawe a chael cyfle ar ddechrau’r tymor hwn yng Nghwpan Carabao.

Yn ôl Steve Cooper, mae’r cyfle i chwarae yng Nghynghrair Cymru wedi cyfrannu at ei lwyddiant hyd yn hyn.

“Fydden i ddim yn dweud mai Cynghrair Cymru sydd wedi cynhyrchu Ben, ond fe roddodd e brofiad da iddo fe, mae’n debyg,” meddai.

“Dw i wedi trafod hynny gyda fe a dw i’n gwybod ei fod e wedi mwynhau. Yn sicr, fe fyddai wedi ei helpu fe.”

Dywed Steve Cooper ei fod e wedi gweithio â nifer o chwaraewyr yn y gorffennol sydd wedi cael y profiad o chwarae yng Nghynghrair Cymru, a bod hynny wedi bod yn rhan bwysig o’u datblygiad.

“Dw i’n gwybod fod Cynghrair Cymru’n gallu bod yn opsiwn arbennig o dda i chwaraewyr ifainc gael mynd allan ar fenthyg. Fe wnaeth Benny elwa o hynny, a dw i’n sicr y gallai eraill elwa hefyd.

“Yr hyn y gall Cynghrair Cymru ei gynnig i chi yw ei bod yn gystadleuol, rydych chi’n chwarae er mwyn ennill pwyntiau, dysgu sut i ennill, dysgu sut i ddelio â cholli.

“Gall hynny olygu tipyn ar y lefel amatur.”