Wrecsam 0–1 Fylde                                                                           

Mae Wrecsam yn aros yn safleoddd disgyn Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ôl colli yn erbyn Fylde ar y Cae Ras nos Fawrth.

Hanner awr a oedd ar y cloc pan roddodd Danny Philliskirk yr ymwelwyr ar y blaen gydag ergyd o du allan i’r cwrt cosbi.

Roedd Akil Wright yn meddwl ei fod wedi unioni ar yr awr ond ni chafodd ei beniad ei ganiatáu oherwydd trosedd Bobby Grant ar y gôl-geidwad.

Mae’r golled yn gadael tîm Dean Keates yn yr ail safle ar hugain yn y tabl.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Jennings, Pearson, Carrington, Summerfield (Redmond 81’), Lawlor, Young, Rutherford (Tollitt 72’), Wright (Harris 63’), Grant, Patrick

.

Fylde

Tîm: Hornby, Burke, Byrne, Bradley (Kosylo 86’), Duxbury (Jameson 80’), Philliskirk, Croasdale, Whitmore, Rowe (Montrose 63’), Williams, Yeates

Gôl: Pilliskirk 30’

Cerdyn Melyn: Yeates 59’

.

Torf: 2,941