Mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru Robbie Savage wedi cyhoeddi ei fod yn dychwelyd i bêl-droed drwy arwyddo â Stockport Town, yn negfed haen pêl-droed Lloegr.

Roedd Robbie Savage, sy’n 45 oed, wedi ymddeol ym mis Mai 2011 tra’r oedd yn chwarae i Derby yn y Bencampwriaeth.

Gwnaeth Robbie Savage 623 ymddangosiad proffesiynol yn ystod ei yrfa, ac enillodd Gwpan y Gynghrair gyda Leicester City yn 2000.

Treuliodd gyfnodau yn chwarae i Crewe, Birmingham a Blackburn, ac enillodd 39 cap i Gymru.

“Ceisio helpu chwaraewyr ifanc i ddatblygu”

Dywed Robbie Savage mai un o’r prif resymau y mae o wedi arwyddo â Stockport Town yw i “geisio helpu chwaraewyr ifanc i ddatblygu.”

“Dw i eisiau rhannu ychydig o beth es i drwyddo yn fy ngyrfa gyda chael fy ngwrthod, gwella o anafiadau, a’r ochr feddyliol o bêl-droed.”